MAE clybiau newydd ar gychwyn yn Sir Ddinbych i gynnig cwrs blasu Cymraeg i ddysgwyr newydd, yn canolbwyntio ar iaith magu plant yn y cartref.

Mae croeso i blant fynychu’r sesiynau gyda’u rhieni, a bydd y sesiynau yn defnyddio caneuon a gemau gydag amser am baned.

Mae Clwb Cwtsh yn un o brosiectau Mudiad Meithrin, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

Bydd cyfres yn dechrau ar Hydref 4 yn Hwb Dinbych, gyda sesiynau yn cychwyn am 1.30pm bob dydd Iau am wyth wythnos. Cynhelir sesiynau hefyd yn y Rhyl a Bae Cinmel.

Manylion gan Mudiad Meithrin ar 01970 639639 neu clwbcwtsh@meithrin.cymru