AETH tua 650 o bobl draw i Gneifio Cyflym Hiraethog a gynhaliwyd am yr ail dro yn Nhafarn yr Heliwr, Bryntrillyn yn ddiweddar.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad, a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, ‘roedd yr hen draddodiad o gneifio defaid wedi denu rhai o gneifwyr gorau Cymru, llawer ohonynt yn byw yn lleol.

Meddai Elen Gwen Williams, un o’r trefnwyr: “Rydym yn hynod o ffodus fel Clwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn, o gefnogaeth y gymuned.

"Cawsom gefnogaeth gan bwyllgor Sioe Nantglyn i gynnal y digwyddiad, ni fyddem byth wedi gallu gwneud hyn heb gefnogaeth ail a thrydedd genhedlaeth o aelodau’r clwb ynghyd a rhieni’r aelodau i baratoi digwyddiad o’r fath.

“Bu busnesau’r ardal yn hael iawn eto eleni yn noddi’r digwyddiad er mwyn sicrhau fod gennym wobrau ariannol gwych i ddenu’r cystadleuwyr ac ni chawsom ein siomi gan y cneifwyr.

"Rydym yn ddiolchgar i’r noddwyr, cystadleuwyr, beirniaid, y gynulleidfa a’r stiwardiaid am eu hymroddiad i’r digwyddiad, yn ogystal â thîm Tafarn yr Heliwr am adael inni gynnal y cneifio cyflym ar gae’r dafarn ar fynydd Hiraethog.”

Llynedd, cyflwynwyd siec i Gronfa Cancr yr Ymennydd Gogledd Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd elw eleni yn mynd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru gyda chyfraniad hefyd yn mynd tuag at Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.