BU dipyn o gyffro yn Amgueddfa Dinbych dros y bythefnos ddiwethaf wrth i’r arddangosfa diweddaraf agor yno, ac wrth i’r newyddion ledaenu ar draws y byd drwy’r rhwydweithiau cymdeithasol.

Stori’r diweddar Tom (Maldwyn) Pryce sydd bellach yn hawlio prif ofod yr amgueddfa tan ddechrau mis Hydref.

Gwelir yno hanesion am hogyn lleol, yr unig Gymro i yrru yn y Fformiwla 1, a fuodd yn ddisgybl yn Ysgol Frongoch (lle saif yr amgueddfa heddiw) ac yn Ysgol Nantglyn.

Breuddwyd Ronwy Rogers, cyfaill i Jack Pryce (tad Tom), oedd sicrhau bod arddangosfa am Tom yn cael ei chynnal, a phan ddaeth y cyfle, aethpwyd ati i gydweithio â rhai o wirfoddolwyr yr amgueddfa i wireddu’r freuddwyd.

Mae’r arddangosfa ar agor bob prynhawn Llun a Iau tan ddechrau Hydref, ac ar gais i grwpiau ar adegau eraill.

Bydd hefyd ar agor ar ddydd Sadwrn a Sul, Medi 29-30 ar gyfer penwythnos Drysau Agored Dinbych.

Mae’r amgueddfa yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.

Mae mynediad a pharcio am ddim, ac fe croesewir cyfraniadau.

Ewch i dudalen Facebook Amgueddfa Dinbych neu Twitter @Denbigh_Museum am y newyddion diweddaraf.